John T. Koch

John T. Koch
Ganwyd20 g Edit this on Wikidata
Alma mater
GalwedigaethCeltegwr, ieithydd, hanesydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Ysgolhaig Celtaidd o'r Unol Daleithiau yw John T. Koch.

Graddiodd o Brifysgol Harvard, gan gymeryd doethuriaeth mewn Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd yn 1985. Bu hefyd yn astudio yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen a Phrifysgol Aberystwyth.

Mae wedi cyhoeddi ar nifer o bynciau yn ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Gymreig a Gwyddeleg. Mae'n adnabyddus yn arbennig am ei lyfr ar Y Gododdin, a gyhoeddwyd yn 1997, ac am ei ddamcaniaeth fod cerrig beddau Tartessos yn cynnwys ysgrif Geltaidd o tua'r 6g CC.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search